Drama newydd gan Suzie Miller
Mae Rosamund Pike, sydd wedi’i henwebu am wobr Oscar (Gone Girl, Saltburn) yn chwarae rhan Jessica yn nrama nesaf hir ddisgwyliedig y tîm oedd y tu ôl i Prima Facie.
Mae Jessica Parks yn Farnwr Llys y Goron clyfar sydd ar frig ei gyrfa. Y tu ôl i’r wisg, mae hi’n caru carioci, yn wraig annwyl ac yn rhiant cefnogol. Pan mae digwyddiad yn bygwth troi ei bywyd ben i waered, a yw hi’n gallu dal ei theulu’n syth?
Mae’r ysgrifennwr Suzie Miller a’r cyfarwyddwr Justin Martin yn dod at ei gilydd unwaith eto ar ôl eu ffenomenon fyd-eang Prima Facie, gyda’r archwiliad tanbaid hwn o fod yn fam fodern a gwrywdod.
Wedi’i ffilmio gyda chynulleidfa.