Bydd y ffotograffydd a’r gwneuthurwr ffilmiau bywyd gwyllt llwyddiannus, Gordon Buchanan, yn cychwyn ar ei daith fyw fwyaf erioed yn 2027 - Lions and Tigers and Bears with Gordon Buchanan.
Ymunwch â Gordon wrth iddo adrodd ei hanesion cyffrous yn dod ar draws pandas, eirth, teigrod, jagwariaid, a mwy.
Dysgwch am yr eiliadau cyffrous, y mwd, y chwys a’r dagrau, a’r rhyngweithio annwyl sydd wedi bod yn rhan o’i yrfa anhygoel.
Archebwch eich tocynnau rŵan am noson o antur, edmygedd a rhyfeddod!