WNO - Bluebeard's Castle and Oedipus Rex (Autumn)

Ar werth: Gwe 29 Mai, 10am

WNO - Bluebeard's Castle and Oedipus Rex (Autumn)

Bartok | Stravinsky

WNO Friends

Yn y rhaglen ddwbl bwerus hon, mae dau ddarn o waith eithriadol o’r 20fed ganrif yn dod at ei gilydd mewn byd cyffredin o ddefod, dirgelwch a dwyster seicolegol. 

Yn Bluebeard’s Castle, mae Judith yn gadael popeth ar ôl er mwyn bod gyda’r Dug Bluebeard enigmatig. Mae’n darganfod yn fuan bod ei dŷ'n llawn drysau clo ac wrth iddi fynnu bod pob un yn cael ei agor, mae'n dadlennu nid yn unig cyfrinachau ei orffennol, ond rhywbeth llawer mwy cythryblus. Wrth iddi nosi, mae’n amhosibl gwahanu cariad ac ofn. 

Yn yr ail hanner, daw'r un gosodiad llwm yn ddinas hynafol Thebes ar gyfer Oedipus Rex. Mae pla'n lledaenu drwy'r wlad, ac mae’r brenin yn benderfynol o ddatgelu'r gwir y tu ôl iddo. Wrth i'w chwilio ddwysáu, mae’n cael ei orfodi i ddod wyneb yn wyneb â ffawd nad yw’n gallu ei hosgoi. Daw’r hyn sy'n dechrau fel mynd ar drywydd atebion yn ddatgeliad torcalonnus. 

Mae’r perfformiad unedig, gothig a llawn awyrgylch hwn yn weledol drawiadol ac yn creu cysylltiadau pwerus rhwng dwy chwedl fythol. 

  • Yn cynnwys cerddoriaeth gan  Hildegard Von Bingen 
  • Arweinydd  Lydia Yankovskaya 
  • Cyfarwyddwr  Joe Hill-Gibbins
  • Cast Nathan Berg, Peter Hoare, Christine Rice,
Cynhyrchiad gwreiddiol o Bluebeard’s Castle gan English National Opera

 

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event