Susan Calman ; Tall Tales

Susan Calman ; Tall Tales

Archebwch nawr

Phil McIntyre Live Ltd yn cyflwyno: 

Susan Calman: Tall Tales 

Nid yw Susan Calman wedi bod ar daith ers deg mlynedd, ond mae hi’n ôl gyda sioe newydd sbon. Mae Susan ddegawd yn hŷn, ond nid yn ddoethach o reidrwydd, ac mae hi wedi canfod ei hun mewn sefyllfaoedd annhebygol dros y blynyddoedd. Sioe am fynd ar fordeithiau, gyrru tanciau, cathod a heneiddio yw Tall Tales. Efallai eich bod wedi’i gweld hi ar y teledu neu wedi’i chlywed hi ar y radio, ond y ffordd orau i’w gweld hi yw yn fyw ar lwyfan. Fyddwch chi ddim yn credu pa mor fyr ydi hi mewn gwirionedd. Paratowch am noson o straeon anghredadwy, chwerthin a dawnsio, mae’n siŵr.

Fel a welwyd ar Grand Day Out, Cruising with Susan Calman, QI, House of Games ac (amser maith yn ôl) Strictly Come Dancing.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event