Burn the Floor

Burn the Floor

Archebwch nawr

Mae KEVIN CLIFTON a’r cwmni dawns fyd-eang benigamp BURN THE FLOOR yn dychwelyd gyda bang yn 2021!

Bydd y cynhyrchiad chwyldroadol llawn tân ag egni unwaith eto yn tanio llwyfannau ac yn dangos i’r gynulleidfa pan mai hon yw’r sioe ddawnsfa sy’n dal i arwain yn y byd ar ôl mwy na dau ddegawd. Cymysgedd o gerddoriaeth byw eclectig, coreograffi sy’n ddigon i ryfeddu a symudiadau sy’n torri tir newydd, mae gan y sioe hon gymysgedd o egni ac angerdd gwrthryfelgar.

Cewch deimlo pa mor ddwys yw angerdd y Tango, eich llusgo ymaith gyda rhamant y Waltz a’ch hudo gan drachwant y Rumba. Yn cynnwys KEVIN CLIFTON, un o’r dawnswyr proffesiynol mwyaf llwyddiannus i ddod allan o Strictly Come Dancing, BURN THE FLOOR yw’r sioe i’w wylio yn 2021! Nid perfformiad “teimlo’n dda” yn unig, ond sioe lle byddwch yn “teimlo’n anhygoel”! Peidiwch â methu’r cyfle i brofi boddhad dawns pur Burn the Floor.

Meddai KEVIN CLIFTON “Burn The Floor is the show that ignited a spark in me and changed me forever as a performer. Through Broadway, West End and touring all over the world this show has ripped apart the rule book, revolutionised our genre and inspired and shaped me as the dancer I am today.”

Gwybodaeth Cwrdd a Chyfarch VIP. Mae’r cwrdd a chyfarch VIP yn cael ei gynnal CYN Y SIOE, 90 munud cyn i’r perfformiad ddechrau. Mae’r cwrdd a chyfarch yn cynnwys cyfarfod Kevin am gyfleoedd tynnu lluniau a chael llofnodion, yn ogystal â rhodd arbennig. Mae’n rhaid i gwsmeriaid gyda thocynnau VIP gyrraedd o leiaf 10 munud cyn dechrau’r cyfnod cwrdd a chyfarch ac mae’n bosib na fydd pobl yn cyrraedd yn hwyr yn cael mynediad.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event