The Commitments
-

The Commitments

Y sioe gerdd enwog o’r West End

-
Archebwch Nawr

Pum mlynedd yn dilyn perfformiadau llwyddiannus yn West End Llundain ac yna’r daith yn gwerthu allan, mae The Commitments yn ôl! Yn seiliedig ar glasur o ffilm enillodd wobr BAFTA, ymunwch â ni am ddathliad pump seren anhygoel o’r enaid i wneud i chi deimlo’n dda fydd yn eich cael ar eich traed yn dawnsio!

Addaswyd o’r nofel eiconig gan enillydd gwobr Booker yr awdur Roddy Doyle ei hun, a chyfarwyddwyd gan Andrew Linnie, mae’r cynhyrchiad poblogaidd hwn yn cynnwys seren Coronation Street, Nigel Pivaro.  Gyda dros 20 o glasuron yn cael eu perfformio’n fyw ar y llwyfan yn cynnwys: Night Train, Try A Little Tenderness, River Deep, Mountain High, In The Midnight Hour, Papa Was A Rolling Stone, Save Me, Mustang Sally, I Heard It Through The Grapevine, Thin Line Between Love and Hate, Reach Out, Uptight, Knock On Wood, I Can't Turn You Loose a mwy!

Mae The Commitments yn adrodd stori Jimmy Rabbitte, cefnogwr cerddoriaeth dosbarth gwaith ifanc sy’n breuddwydio am sefydlu’r band gorau a gynhyrchwyd gan Ddulyn erioed. Ar ôl rhoi hysbyseb mewn papur cerddoriaeth, mae Jimmy yn cynnal clyweliadau gyda nifer o ymgeiswyr cyn cwblhau aelodau ei fand newydd:   The Commitments. Ond fel mae unrhyw gerddor byw yn gwybod, nid yw cael band at ei gilydd byth yn gweithio - yn arbennig ar ôl peint neu ddau o Guinness!

Dewch i weld y sioe West End anhygoel sy’n siŵr o fod yn “noson allan llawn hwyl” (Daily Mail) na wnewch ei anghofio.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event