Does dim angen cadw lle
Mae Caffi Lego AM DDIM Venue Cymru yn ei ôl!
Galwch heibio i’n syfrdanu ni gyda’ch creadigaethau Lego yng nghaffi Catlin’s - rydym ni hyd yn oed yn darparu’r Lego!
Mae’r digwyddiad am ddim ac nid oes angen archebu lle. Dewch draw a dewch i fwynhau.
Mae’r Caffi Lego ar agor 10am - 4pm
dydd Gwener 12 Awst
dydd Gwener 19 Awst
dydd Gwener 26 Awst
dydd Gwener 2 Medi
** Mae’n RHAID i blant gael eu goruchwylio drwy’r amser tra yn y caffi
**Bydd ffrwythau a fflapjacs ar gael, hefyd am ddim, i'r holl blant yn y Caffi Lego diolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Llywodraeth Cymru.
** Gall y Caffi Lego fod yn hynod o brysur ar rai adegau yn ystod y dydd. Rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd
** Byddwn yn gwerthu diodydd poeth ac oer yn ogystal â byrbrydau, felly rydym yn gofyn yn gwrtais nad ydych yn bwyta bwyd/diodydd o fannau eraill pan rydych yn y Caffi Lego