Mike Bubbins - Ideas Man

Mike Bubbins - Ideas Man

Archebwch nawr

Ideas Man – dyn syniadau: ‘Rhywun sy’n arbennig o dda am feddwl am syniadau newydd neu wreiddiol.’ Dyna beth ydi Mike Bubbins. Nid dyn gweinyddu. Nid dyn trefnus. Nid yn ddyn arbennig o ddiwyd. Dyma ichi’r daith gomedi hon fel enghraifft berffaith. Mae gan Mike bentwr o hanesion digri’ dros ben. Mae o’n arbennig o dda am eu hadrodd nhw. Felly, fe gafodd y syniad o rannu’r holl straeon â phobl eraill i wneud iddynt chwerthin llond eu boliau a chael noson allan fendigedig. Mae o wedi gadael yr holl drefniadau, a phob dim arall y mae angen ei wneud, i bobl eraill. Heblaw am enw’r sioe. Ei syniad o oedd IDEASMAN.

The Telegraph - ‘ delightfully silly….the jokes come thick and fast…delivered with such confidence by Bubbins… **** ‘
Irish Times - ‘ a giggle fest… wistfully hilarious ‘
The Times – ‘ … Bubbins is terrific ‘
Radio Times – ‘ …a brilliant performance from Bubbins ‘
 

Mae Mike Bubbins yn ddigrifwr, actor, awdur a darlledwr o Gymru. Ef sydd wedi creu a chyd-ysgrifennu’r gyfres boblogaidd Mammoth ar y BBC y mae’n brif seren ynddi. Pan ddarlledwyd y rhaglen gyntaf, fe gafodd fwy o wylwyr na’r un gyfres gomedi newydd arall ar BBC2 ers pum mlynedd. Bydd yr ail gyfres yn dod ar y sgrin ym mis Rhagfyr 2025.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event