Get in loser, we’re going to Venue Cymru!
Enillydd Sioe Gerdd Newydd Orau (Gwobrau WhatsOnStage) ac yn syth o’r West End, MEAN GIRLS ydi’r sioe gerdd ddoniol a newydd gan dîm creadigol llwyddiannus sy’n cynnwys Tina Fey (30 Rock), cyfansoddwr Jeff Richmond (Unbreakable Kimmy Schmidt), awdur geiriau Nell Benjamin (Legally Blonde) a’r cyfarwyddwr a choreograffwr Casey Nicholaw (The Book of Mormon).
Dewch i gwrdd â ‘The Plastics’ – Regina, Gretchen a Karen. Nhw sydd yn teyrnasu yn North Shore High a does dim ots ganddynt frifo unrhyw un. Wedi cael ei haddysgu adref, mae Cady Heron yn credu ei bod hi’n gwybod un neu ddau o bethau am oroesi diolch i’w rheini sydd yn sŵolegwyr, ond mae’r ysgol uwchradd yn lefel newydd o greulondeb. Pan mae Cady yn cynllwynio i roi diwedd ar deyrnasiad Regina, mae hi’n dysgu’r ffordd galed na allwch chi dynnu’n groes i’r frenhines heb gael eich pigo.
Disgwyliwch gymeriadau eiconig, iaith ffraeth a chaneuon gwych. Trefnwch gyda’ch ffrindiau, mae hyn yn mynd i fod yn ‘fetch’ – ac YDYM Llandudno, rydym ni’n gwneud iddo ddigwydd!