MAMMA MIA!
-

MAMMA MIA!

-
Archebwch nawr

SIOE GERDD LWYDDIANNUS FYD-EANG MAMMA MIA! YN RHAN O’R DAITH FAWR NEWYDD O GWMPAS Y DU YN YMWELD Â VENUE CYMRU O EBRILL 2026

O’r West End i ffenomenon byd-eang, mae MAMMA MIA! yn gampwaith gan Judy Craymer, sydd wedi dod â chaneuon oesol ABBA yn fyw drwy stori lawen a doniol am fam, merch a thri thad posibl sy’n datblygu ar ynys Roegaidd.

Mae’r sioe ddoniol hon wedi bod yn swyno cynulleidfaoedd o amgylch y byd, ac ni fu erioed well amser i weld y sioe gerdd fythgofiadwy hon. Beth bynnag yw eich oed, rydych yn sicr o fwynhau yn MAMMA MIA!

Mae MAMMA MIA! sydd erbyn hyn yn ei 26ain flwyddyn, wedi cael ei gwylio gan dros 11 miliwn o bobl ac wedi gwneud dros 10,000 o berfformiadau yn West End Llundain. Mae Taith Ryngwladol MAMMA MIA! wedi ymweld â 42 o wledydd yn yr 20 mlynedd diwethaf, wedi perfformio mwy na 3,800 o sioeau ac wedi cael ei gwylio gan dros 7.3 miliwn o bobl. MAMMA MIA! yw’r 9fed sioe sydd wedi bod yn rhedeg am y cyfnod hiraf yn hanes Broadway wrth iddi gael ei pherfformio am 14 mlynedd yn olynol.  Yn 2011, dyma'r sioe gerdd Orllewinol gyntaf erioed i gael ei chynnal mewn Mandarin yng Ngweriniaeth Pobl Tsieina. Mae MAMMA MIA! wedi cael ei gwylio’n fyw ar y llwyfan gan dros 70 miliwn o bobl ledled y byd ac wedi'i throi'n ddwy ffilm sydd wedi ennill gwobrau.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event