Ar ôl diddanu miliynau o gefnogwyr ar Strictly Come Dancing, mae La Voix yn dychwelyd - yn fwy syfrdanol a thrydanol nag erioed! Nid yn unig y mae hi wedi ennill calonnau’r genedl â’i sgiliau dawnsio’r Walts, mae hi wedi mynd ymlaen i goncro Prydain fel un o gochion mwyaf adnabyddus y wlad!
Dylech ddisgwyl noson gofiadwy o ganu byw iasol, comedi hwyliog, ffraethineb chwim, ac wrth gwrs, digon o sbloets a sglein. P’un a ydi hi’n bloeddio’r clasuron, yn rhannu straeon am helyntion di-ri neu’n arwain y gynulleidfa i grïo chwerthin, mae La Voix yn siŵr o gynnig noson lawn adloniant o’r radd flaenaf, a hynny mewn modd annisgwyl a bythgofiadwy.
Gyda’i llais swynol sy’n rhewi cynulleidfaoedd yn eu unman, ei ffrogiau mawreddog sy’n haeddu clod eu hunain, a’i charisma cadarn sydd â’r pŵer i gynnal y Grid Cenedlaethol, La Voix Live yw’r noson allan berffaith i godi calon.
Os ydych chi erioed wedi ei gweld hi ar y teledu, dyma eich cyfle i brofi’r hud yn y cnawd. Os ydych chi wedi ei gwylio’n fyw o’r blaen, rydych chi’n gwybod eich hunan - mae pob un o’i sioeau’n cynnig rhywbeth hollol wahanol.
Archebwch rŵan… mae bywyd yn rhy fyr i gael nosweithiau diflas!