An Inspector Calls
-

Drama Gyffrous Glasurol JB Priestley

An Inspector Calls

-
Archebwch Nawr

Mae cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Stephen Daldry o ddrama gyffrous glasurol JB Priestley, sydd wedi ennill amryw o wobrau, yn dychwelyd ar ôl taith a lwyddodd i werthu pob un tocyn yn 2022.   

Wedi ennill 19 prif wobr a’i ganmol fel digwyddiad theatraidd ei genhedlaeth, mae An Inspector Calls wedi gwefreiddio dros 5 miliwn o bobl mewn theatrau ar hyd a lled y byd.  

Pan mae Inspector Goole yn galw yng nghartref y teulu Birling cefnog yn annisgwyl, mae eu swper teuluol tawel yn cael ei chwalu gan ei ymchwiliadau i farwolaeth dynes ifanc. Mae ei ddatgeliadau syfrdanol yn siglo seiliau eu bywydau ac yn ein herio ni oll i gwestiynu ein cydwybod. Yn fwy perthnasol heddiw nag erioed, dyma ddrama y dylai’r genhedlaeth newydd gyfan fynd i’w gweld. 

Tîm Creadigol:

  • Cyfarwyddwr - Stephen Daldry 
  • Dylunydd - Ian MacNeil 
  • Dylunydd Goleuo - Rick Fisher 
  • Cyfansoddwr - Stephen Warbeck 
  • Cyfarwyddwr Cyswllt - Charlotte Peters  
  • Cynhyrchydd - PW Productions 
  • Producer PW Productions 
Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event