The Houghton Weavers

The Houghton Weavers

Archebwch Nawr

Mae THE HOUGHTON WEAVERS wedi bod yn adlonni cynulleidfaoedd ers 47 mlynedd gyda’u cyfuniad unigryw o gerddoriaeth werin, hiwmor, a chyfranogiad gan y gynulleidfa.

Yn ystod eu hamser gyda’i gilydd, mae’r grŵp wedi perfformio mewn miloedd o gyngherddau, wedi recordio mwy na 30 albwm, ac wedi serennu mewn nifer o’u cyfresi radio a theledu llwyddiannus eu hunain ar y BBC.

Mae THE HOUGHTON WEAVERS yn addo sioe llawn hwyl sy’n addas i’r teulu i gyd. Bydd digonedd o chwerthin a’r hen ffefrynnau fel Blackpool Belle, Matchstalk Men a Wild Rover i chi ganu gyda nhw, a digonedd o ganeuon newydd a straeon doniol!

Mae The Houghton Weavers yn addo noson hyfryd o adloniant ac mae eu profiad – ynghyd â’u harddull a’u proffesiynoldeb – yn sicrhau eu bod yn rhoi gwên ar wyneb pawb o hyd, fel mae eu harwyddair yn ei ddweud - ‘Keep Folk Smiling!’.

www.houghtonweavers.com

 

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event