Dydd Sadwrn 21 Hydref 2023 11am-5.30pm
Ar gyfer storïwyr o 7 i 25 oed a’u teuluoedd: fe’ch gwahoddir i wledd o adrodd straeon, gweithdai a hwyl. Os ydych yn hoff o straeon traddodiadol, chwedlau, straeon am dylwyth teg, neu’n hoffi creu eich straeon eich hunain, dyma’r digwyddiad perffaith i chi. Mae croeso i chi roi cynnig ar ein cystadlaethau cyfeillgar neu ddod draw i wrando. Ymunwch â ni wyneb yn wyneb yn Venue Cymru ar gyfer y sesiynau canlynol:
- 11am-1pm Stori Agoriadol a Gweithdy gyda Peter Stevenson (Dehongliad BSL)
- 11am-1pm Straeon Agoriadol/Gofod Ymarfer Stori/Meddygfa Stori gyda Gill
- 1pm-2.30pm Gweithgareddau ar y Lledlawr
- 2.30pm-5.30pm Cystadlaethau Storïwr Inc Cymru (Dehongliad BSL)
- 2.30pm-4.30pm Gemau Straeon gyda Billie a Tor
Neu ymunwch â ni ar Zoom ar gyfer:
- 11am-1pm Stori Agoriadol a Gweithdy gyda Peter Stevenson (Dehongliad BSL)
- 2.30pm-5.30pm Cystadlaethau Storïwr Inc Cymru (Dehongliad BSL)
Os ydych yn cofrestru ar gyfer y digwyddiad ar-lein, bydd gwahoddiad Zoom yn cael ei anfon i chi drwy e-bost er mwyn cymryd rhan yn y sesiynau.