Camwch ar y llong am noson o antur ar y môr! Mae Gŵyl Ffilmau Môr y Byd yn cynnwys dau gasgliad newydd o’r ffilmiau mwyaf anhygoel am antur ar y môr.
Yn cael eu cyflwyno i chi’n arbennig i gan y tîm y tu ôl i daith Gŵyl Ffilmiau Mynydd Banff y DU ac Iwerddon, mae'r detholiad hwn o ffilmiau byr yn cyfuno bywyd môr syfrdanol a mordeithiau gwyllt mewn dathliad sinematig o'n cefnforoedd.
Mentrwch i ddyfnderoedd dirgelaf y blaned i gyfarfod y syrffwyr, y padlwyr, y plymwyr a’r gwyddonwyr sydd wedi cysegru eu bywydau i ateb galwad y môr. Ymgollwch yn rhyfeddodau’r môr mawr glas - heb wlychu eich traed!
Antur ddwbl - archebwch docynnau ar gyfer Gŵyl Ffilmiau Banff (dydd Iau 24 Ebrill) ar yr un pryd i gael gostyngiad pris ar docynnau ar gyfer y ddwy ŵyl.
Gweler www.oceanfilmfestival.co.uk am fwy o wybodaeth.
Llun gan Jake Wilton.