Gweithdy Dawns Theatr Gerdd 'Six' - gyda Rachel Sargent

Ar gael nawr!

Gweithdy Dawns Theatr Gerdd yn Fyw ar Zoom gyda Rachel Sargent, Perfformiwr a Choreograffydd o’r West End. Yn seiliedig ar ‘Six’, y sioe gerdd adnabyddus sydd wedi ennill gwobrau.

  • Dydd Sadwrn 10 Ebrill, 3pm
  • Gweithdy 1 awr a sesiwn holi ac ateb
  • Gwisgwch ddillad dawnsio / ymarfer corff, unrhyw beth sy’n gyfforddus i symud o gwmpas!
  • E-bostiwch ni i gofrestru

Ar ôl blynyddoedd lawer o berfformio ar lwyfan, o gynyrchiadau gweithdy i sioeau mawr yn y West End megis Mamma Mia a Hairspray mae Rachel wedi bod yn ymddiddori  yn ochr mwy creadigol y diwydiant ac wedi adeiladu CV coreograffi a dysgu cyffrous dros y blynyddoedd.

Mae hi wedi dysgu yn rhai o’r colegau gorau yn y wlad, megis Laine Theatre Arts, GSA, PPA, yr Academi Frenhinol a The Hammond.  Mae Rachel ar hyn o bryd yn llunio’r coreograffi ar gyfer agoriad Ewropeaidd y sioe gerdd newydd ‘In Pieces’ a fydd yn cael ei rhyddhau fel ffilm yn  ddiweddarach eleni. 

Group 1: 6-9 years

Group 2: 9-11 years

Group 3: 12-16 years

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event