Gigs y Gaeaf yn cyflwyno 'The Trials of Cato with Gwilym Bowen-Rhys'

Gigs y Gaeaf yn cyflwyno 'The Trials of Cato with Gwilym Bowen-Rhys'

Archebwch nawr

Mae gŵyl gerddoriaeth newydd sbon Conwy wedi cyrraedd!

Bydd Gigs y Gaeaf yn llenwi llefydd ar draws y sir, yn rhoi’r sbotolau ar dalent gerddorol o Gymru a thu hwnt.

Bydd y digwyddiadau am ddim gyda chyfle i roi / talu fel y dymunwch.

Fe’i ffurfiwyd yn Beirut, a dychwelodd The Trials of Cato i’r DU yn 2016 gan berfformio’n ddiflino ar hyd a lled y wlad. Cafodd eu halbwm cyntaf, Hide and Hair, sylw mewn cyhoeddiadau cenedlaethol, sylw cenedlaethol rheolaidd ar BBC Radio 2 a BBC 6 Music, ac enillodd yr Albwm Gorau yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2 2019.

Enw ail albwm The Trials of Cato, y mae edrych ymlaen mawr amdani, yw Gog Magog, ac mae’r albwm wedi’i enwi ar ôl y cawr chwedlonol o chwedl Arthur a bryncyn yn Swydd Caergrawnt, lle cafodd yr albwm newydd ei chreu yn ystod y cyfnod clo.

Cerddor o Fethel yn Arfon ydi Gwilym. Mae wedi bod yn hogi ei grefft ar lwyfannau ers ei arddegau a bellach mae’n un o gantorion gwerin amlycaf Cymru. Mae ei gerddoriaeth yn gymysgedd o’r hen a’r newydd, yn arbrofi gyda hen eiriau ac alawon ac yn eu cymysgu gyda’i gerddoriaeth ffres ac egnïol ei hun. Fe enillodd y wobr am yr ‘artist unigol gorau’ yng Ngwobrau gwerin Cymru yn 2019 ac mae wedi perfformio ei gerddoriaeth ar draws y byd. Cyhoeddodd ei albym gyntaf ‘O Groth y Ddaear’ yn 2016 a gyrhaeddodd restr fer ‘albym Cymraeg y flwyddyn’ yn yr Eiseddfod Genedlaethol. Yn 2018 cyhoeddodd y cyntaf mewn cyfres o gasgliadau o hen faledi, ac yn 2019 cyhoeddwyd ei drydedd albym: ‘Arenig’.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event