Gigs y Gaeaf yn cyflwyno Mark Morriss

Gigs y Gaeaf yn cyflwyno Mark Morriss

Archebwch nawr

Bydd Gigs y Gaeaf yn llenwi llefydd ar draws y sir, yn rhoi’r sbotolau ar dalent gerddorol o Gymru a thu hwnt.

Bydd y digwyddiadau am ddim gyda chyfle i roi / talu fel y dymunwch.

Ar ôl teithio fel unawdydd er 2008, mae Mark Morriss wedi treulio’r rhan fwyaf o 3 degawd yn mireinio ei grefft fel perfformiwr byw.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, rhyddhaodd Mark 6 albwm gyda The Bluetones, gan gynnwys 14 o senglau yn y 40 uchaf, 4 albwm fel artist unigol, a chydweithiodd gyda Matt Berry a’r Maypoles, Mike Wilton, a The Helicopter Of The Holy Ghost ar deithiau ac ar eu record.

Fel perfformiwr byw, mae Mark yn gallu cyfuno caneuon o’i gatalog archif helaeth gyda straeon am ei gyfnod ar y ffordd, gan ddarparu sioe ddifyr sy’n ymfalchïo nad yw byth yr un fath ddwywaith.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event