Gigs y Gaeaf yn cyflwyno Juan Martin

Gigs y Gaeaf yn cyflwyno Juan Martin

Archebwch Nawr

Mae gŵyl gerddoriaeth newydd  sbon Conwy wedi cyrraedd!

Bydd Gigs y Gaeaf yn llenwi llefydd ar draws y sir, yn rhoi’r sbotolau ar dalent gerddorol o Gymru a thu hwnt.

Bydd y digwyddiadau am ddim ac am bris gostyngol gyda chyfle i roi / talu fel y dymunwch.

Dysgodd Juan Martán ei gelfyddyd yng ngwald ei darddiad, Andalwsîa yn ne Sbaen lle treuliodd ei flynyddoedd ffurfiannol cynnar, a lle mae’n dal i gadw cartref.   Pan oedd yn ei arddegau, chwaraeodd mewn ffiestas, priodasau a bedyddiadau lleol, gan ddatblygu ei wybodaeth a’i sgiliau ym meysydd traddodiadau puraf fflamenco.  Yn 17 oed, roedd eisoes yn chwarae’n broffesiynol. Pan oedd yn 18 oed, aeth i Madrid lle cafodd brofiad helaeth gyda llawer o chwaraewyr, dawnswyr a chantorion blaenllaw.

Roedd y blynyddoedd cynnar hyn yn sail i’w yrfa fel perfformiwr unigol ac arweinydd ei gwmnïau dawns ei hun, galwedigaeth heriol sydd wedi ennill clod rhyngwladol iddo fel perfformiwr cyngerdd arloesol, darlledwr ac artist recordio.

Cafodd ei wahodd i berfformio yn nathliadau pen-blwydd Picasso yn 90 oed, a arweiniodd yn ddiweddarach at recordio ei albwm arloesol Picasso Portraits.  Mae wedi perfformio mewn gwyliau mawr ledled y byd, gan gynnwys Montreux Jazz ddwywaith, unwaith gyda Miles Davis, y Gyngres Gitâr Byd Cyntaf yn UDA, Gŵyl Gitâr Adelaide, Celtic Connections, Ludwigsberg, Atlantic Jazz yng Nghanada a Gŵyl Hong Kong ymysg eraill.   Perfformiodd hefyd mewn gwyliau fflamenco yn nhalaith Cádiz yn ogystal â Gŵyl fawreddog Ojen ym Málaga.

Mae Juan Martán yn frwd dros gyfleu dirgelion ei waith celf i gynulleidfa ehangach, felly yn 1978 cyhoeddodd ei lyfr dulliau cyntaf “El Arte Flamenco de la Guitarrra” sydd wedi bod ar frig y rhestr gwerthiant, ac nad yw erioed wedi bod allan o brint, ac mae wedi cael ei ddisgrifio fel petai ganddo awdurdod sy’n cyfateb i astudiaethau Fernando Sor ar gyfer y gitâr clasurol.  

Mae ei ymrwymiad i’w gelfyddyd wedi mynd ag ef i o leiaf 40 o wledydd ledled y byd ar gyfer cyngherddau ac mae bellach yn cynnal cwrs gitâr blynyddol yn Ronda, Andalwsîa yn ogystal ag amrywiaeth o ddosbarthiadau meistr sy’n denu eraill i’r traddodiadau hanesyddol a’r datblygiadau cyffrous yn y celfyddydau heddiw.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event