Gigs y Gaeaf yn cyflwyno John Power

Gigs y Gaeaf yn cyflwyno John Power

(The La’s / Cast)

Gwerthu allan

Mae gŵyl gerddoriaeth newydd sbon Conwy wedi cyrraedd!

Bydd Gigs y Gaeaf yn llenwi llefydd ar draws y sir, yn rhoi’r sbotolau ar dalent gerddorol o Gymru a thu hwnt.

Bydd y digwyddiadau am ddim gyda chyfle i roi / talu fel y dymunwch.

Ar ôl gwneud ei farc cyntaf ar y byd pop yn y DU yn niwedd y ‘80au a’r ‘90au cynnar gyda’r pedwarawd enwog o Lerpwl, The La’s, gadawodd Power y grŵp i ffurfio grŵp newydd o’r enw Cast. Roedd amseriad ymddangosiad y band yn berffaith, yn cyd-daro â chynnydd Britpop yng nghanol y 1990au, a gyda bandiau gitâr o’r un anian fel Oasis a Blur yn flaenllaw yn y siartiau, gwerthodd dwy LPgyntaf Cast, All Change (a ryddhawyd yn 1995, a’r albwm gyntaf gan werthodd fwyaf ar label Polydor) aMother Nature Calls yn 97, dros 1,000,000 o gopïau.

Ar ôl i Cast chwalu yn 2001, rhoddodd Polydor gynnig i John Power recordio fel artist unigol. Rhyddhaodd Power ei albwm unigol gyntaf, Happening For Love yn 2003.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event