Gigs y Gaeaf yn cyflwyno 'The Belgrave House Band: Rumours Reimagined'

Gigs y Gaeaf yn cyflwyno 'The Belgrave House Band: Rumours Reimagined'

Archebwch nawr

Mae gŵyl gerddoriaeth newydd sbon Conwy wedi cyrraedd!

Bydd Gigs y Gaeaf yn llenwi llefydd ar draws y sir, yn rhoi’r sbotolau ar dalent gerddorol o Gymru a thu hwnt.

Bydd y digwyddiadau am ddim gyda chyfle i roi / talu fel y dymunwch.

Mae’r Belgrave House Band yn gasgliad o gerddorion meistrolgar o fyd Jazz a Soul Leeds, a daw’r aelodau o Tetes De Pois, Mamilah, Skwid Ink, B-Ahwe a label Tight Lines.

Mae’r band 8 darn yn ail-greu clasuron gyda sylw anhygoel i fanylion, ac egni bywiog sy’n cynnig golwg unigryw ar y gorffennol tra’n cyflwyno sioeau cyffrous sydd wedi’u gosod yn y presennol. Nid band teyrnged yw hwn fel y cyfryw, mae hwn yn ail-gynhyrchiad gwych o un o’r albymau mwyaf nodedig a masnachol lwyddiannus ac o bwys diwylliannol erioed, ac mae’n gyfle i ymgysylltu â band sy’n cofleidio’r campwaith ac yn ei ail-gynhyrchu'n hyfryd.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event