Beth pe bai’r peth yr oeddech chi’n chwilio amdano yn dod o hyd i chi yn gyntaf? Yn ffilm gomedi sgrin fawr Pixar Animation Studios, mae Elio, sydd ag obsesiwn ag estroniaid, yn darganfod yr ateb i’r cwestiwn hwn pan gaiff ei gludo i’r Communiverse, paradwys rhyngblanedol sy’n gartref i fywyd deallus o alaethau pell ac agos.
Ond pan gaiff ei gamgymryd am arweinydd y Ddaear, bydd rhaid iddo ffurfio cysylltiadau annisgwyl, llywio argyfwng rhyngalaethol a gwneud yn siŵr nad yw’n colli’r cyfle i wireddu ei freuddwyd.