Cymerwch Ran (Sad & Sul)
Cyflwyniad i Grefft Ymladd ar y Llwyfan: Di-arf
gyda Kaitlin Howard
-
Am ddim
Cymhwysodd Kaitlin fel Hyfforddwr Crefft Ymladd ar y Llwyfan yn 2005 ac mae hi’n Uwch Athro ac yn Arholwr yn yr Academy of Performance Combat, un o lond llaw o gyrff hyfforddi crefft ymladd ar y llwyfan cymeradwy yn y DU. Mae hi’n athro Crefft Ymladd ar y Llwyfan preswyl yn Ysgol Theatr Manceinion ac yn cynnal gweithdai ar hyd a lled y DU. Mae Kaitlin yn Gyfarwyddwr Ymladd Cofrestredig (un o dair merch sy’n dal y teitl hwn), ac mae hi wedi gweithio gyda chynyrchiadau llwyfan, ffilm a theledu di-rif.
- 10am-11am | 11.15am-12.15am | 1pm-2pm
- Ystafell Conwy
- Oed: 8+
- Gwisgwch ddillad llac a chyffyrddus ac esgidiau chwaraeon fflat. Cofiwch ddatgelu unrhyw anaf a/neu gyflwr meddygol perthnasol. Mae gweithgareddau’r sesiwn hon yn egnïol iawn. Cofiwch ddod â dŵr efo chi.