Mae Caffi Babis yn sesiwn newydd yr ydym yn ei gynnig i rieni newydd a’u babis. Dyma awr greadigol yng nghwmni Siwan Llynor ac Angharad Harrop sy’n rhoi’r cyfle i rieni newydd i gwrdd â rhieni eraill, yn ogystal ag ymlacio gyda’ch babi am gyfnod o amser. Awr i ddod â rhieni ynghyd mewn gofod diogel. Bydd pob sesiwn yn 45 munud o hyd, gyda chyfle am sgwrs ar y diwedd. Mae’r sesiwn fwyaf addas i blant hyd at 24 mis oed, fodd bynnag mae croeso i blant hŷn ymuno yn yr hwyl hefyd. Dim ond un tocyn sydd ei angen ar gyfer oedolyn a phlentyn
- Dydd Iau 2 Tachwedd
- Stwdio, Venue Cymru
- 10am – 10:45am | 12pm – 12:45pm | 2pm – 2:45pm
- £1 i archebu lle yn y digwyddiad (Charge for parent only)
- Oed - Hyd at 24 mis