Dewch i fwynhau noson fythgofiadwy o antur gyffrous – ar y sgrin fawr!
Mae Gŵyl Ffilmiau Mynydd Banff yn cynnwys casgliad newydd sbon o ffilmiau byrion yn llawn teithiau eithafol, cymeriadau gwyllt a sinematograffi cyfareddol. Ymunwch ag anturiaethwyr a gwneuthurwyr ffilmiau antur gorau’r byd wrth iddynt ddringo, sgïo, padlo a reidio i rannau mwyaf gwyllt y blaned! Gyda gwobrau rhad ac am ddim, dyma ddigwyddiad na ddylid ei golli gan ŵyl ffilmiau mynyddoedd fwyaf fawreddog y byd - bydd yn sicr o danio eich angerdd am antur a theithio!
Dangosiad Rhaglen Ffilm Goch 2027 yw hwn.
Gweler www.banff-uk.com am ragor o wybodaeth.