Ymunwch â ni yn Theatr Colwyn i wylio The Ballad of Wallis Island yn rhad ac am ddim, cafodd ei ffilmio ar leoliad yn Sir Benfro.
Gallwn gynnal y digwyddiad hwn – a fydd yn ddigwyddiad prynhawn – ar gyfer preswylwyr Bwrdeistref Sirol Conwy o ganlyniad i gefnogaeth gan Ymddiriedolaeth Celfyddydau Conwy. Fe fydd awyrgylch hamddenol, gyda’r sain yn is a rhai goleuadau ymlaen.
Mae mynediad hefyd yn cynnwys te, coffi a bisgedi am ddim.
Mae THE BALLAD OF WALLIS ISLAND yn dilyn Charles (Tim Key), unigolyn ecsentrig sydd wedi ennill y loteri sy’n byw ar ei ben eu hun ar ynys bellennig ac sy’n breuddwydio am ddod â’i hoff gerddorion, McGwyer Mortimer (Tom Basden a Carey Mulligan) yn ôl at ei gilydd. Mae ei freuddwyd yn troi’n realiti pan mae’r cerddorion a chyn-gariadon yn derbyn ei wahoddiad i chwarae sioe breifat ar Ynys Wallis. Mae hen densiynau yn codi i’r wyneb wrth i Charles geisio achub ei gig ddelfrydol.
Yn cynnwys lefel gymedrol o iaith anweddus.