Bydd twrnamaint y flwyddyn nesaf yn nodi 35 mlynedd ers y digwyddiad cyntaf sydd wedi cael ei ennill gan enwogion y byd snwcer megis Steve Davis, Stephen Hendry, Ronnie O'Sullivan, John Higgins a Mark Williams. Mynnwch eich lle yn Venue Cymru, Llandudno flwyddyn nesaf i weld hanes yn cael ei greu unwaith eto o 8 - 14 Chwefror.
Yn dilyn gwerthu mwy o docynnau nag erioed ar gyfer y digwyddiad eleni, bydd galw mawr yn siŵr o fod am docynnau ar gyfer 2027. Gyda thocynnau ar gael am gyn lleied â £15 y sesiwn gyda’n cynnig agoriadol arbennig, archebwch yn gyflym i weld rhai o chwaraewyr snwcer gorau’r byd yn dangos eu doniau am bris gwerth chweil.