Ar ôl tair antur beryglus yn herio dihirod mwya’r byd, gelwir ar Po, Rheolwr y Ddraig (Jack Black sydd wedi’i enwebu ar gyfer Golden Globe) a’i ddewrder heb ei ail a’i sgiliau crefft ymladd anhygoel… i stopio.
Yn fwy penodol na hynny, mae wedi’i ddewis i ddod yn Arweinydd Ysbrydol Cwm Heddwch.
Mae hynny’n achosi rhai problemau amlwg. Yn gyntaf, mae gwybodaeth Po am arweinyddiaeth ysbrydol yn rhywbeth tebyg i’w wybodaeth am ddeiet paleo, ac yn ail, mae angen iddo ddod o hyd i Ryfelwr y Ddraig newydd a’i hyfforddi cyn iddo allu ymgymryd â’i swydd bwysig newydd.
Yn cynnwys trais a bygythiad cymedrol.