Prosiect Dyfodol Venue Cymru – Ymgysylltu â’r Cyhoedd
Mae’n bleser gennym rannu cynlluniau gyda chi ar gyfer y newidiadau cyffrous sydd ar y cam dylunio ar hyn o bryd.
Isod gallwch weld y byrddau arddangos sydd bellach i’w gweld yng nghyntedd Venue Cymru.
Os hoffech weld yr arddangosfa yn Venue Cymru, bydd ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am - 4.45pm a dydd Sadwrn 12pm - 4.45pm ar ddiwrnodau pan nad oes sioe, a tan 8pm ar ddiwrnodau sioe.
Hoffem gael adborth gennych ar y dyluniadau arfaethedig. Gallwch fynegi eich barn drwy ein harolwg ar-lein.