Ar ôl dwy ffilm o gyfeillgarwch a fflyrtian, mae Poppy (Anna Kendrick) a Branch (Justin Timberlake) bellach yn gwpl swyddogol, o’r diwedd. Wrth iddynt agosáu, mae Poppy yn darganfod bod gan Branch gefndir cyfrinachol.
Roedd o ar un tro yn rhan o’i hoff fandiau, sef y ffenomen BroZone, gyda’i bedwar brawd. Fe wahanodd BroZone pan oedd Branch yn ifanc, fel y gwnaeth y teulu, a dydi Branch heb weld ei frodyr ers hynny.
Pan gaiff Floyd, brawd Branch ei herwgipio am ei dalentau cerddorol gan sêr pop eraill, Velvet a Veneer, mae Branch a Poppy yn cychwyn ar daith emosiynol i geisio dod â’r brodyr yn ôl at ei gilydd ac achub Floyd o dynged sydd hyn yn oed yn waeth na bod yn anadnabyddus.
*Yn cynnwys bygythiad ysgafn iawn, hiwmor amrwd, cyfeiriadau at ryw ac Iaith*