Gan Anton Chekhov, mewn fersiwn gan Anya Reiss | Wedi’i chyfarwyddo gan Jamie Lloyd
Mae Emilia Clarke (Game of Thrones) yn gwneud ei hymddangosiad cyntaf yn y West End mewn fersiwn 21ain ganrif o stori Anton Chekhov am gariad ac unigrwydd.
Mae merch yn daer eisiau enwogrwydd a ffordd allan. Mae dyn ifanc yn dyheu am y ferch ddelfrydol. Mae awdur llwyddiannus yn hiraethu am ymdeimlad o lwyddiant. Mae actores eisiau brwydro yn erbyn newidiadau ei chyfnod. Mewn cartref diarffordd yng nghefn gwlad, mae breuddwydion yn deilchion, gobeithion ar chwâl a chalonnau wedi’u torri. Heb unrhyw le arall i droi, yr unig opsiwn yw troi ar y naill a’r llall.
Yn dilyn canmoliaeth fawr i’w gynhyrchiad pum seren o Cyrano de Bergerac, mae Jamie Lloyd yn dod ag addasiad Anya Reiss o ddrama glasurol Anton Chekhov i’r llwyfan. Wedi’i ffilmio yn y West End yn Llundain gyda chast yn cynnwys Tom Rhys Harries (White Lines), Daniel Monks (The Normal Heart), Sophie Wu (Fresh Meat) ac Indira Varma (Game of Thrones).