NT Live: Nye (12A)

NT Live: Nye (12A)

Archebwch Nawr

Drama newydd gan Tim Price wedi’i chyfarwyddo gan Rufus Norris

Michael Sheen sy’n chwarae rhan Nye Bevan ar y daith swrrealaidd ac ysblennydd hon drwy fywyd ac etifeddiaeth y dyn a drawsnewidiodd wladwriaeth les Prydain a chreu’r GIG.

Yn wyneb marwolaeth, mae atgofion dyfnaf Aneurin ‘Nye’ Bevan yn ei arwain ar daith seicedelig yn ôl drwy ei fywyd; o’i blentyndod i gloddio o dan y ddaear, y Senedd a’i ornestau gyda Churchill.

Wedi’i hysgrifennu gan Tim Price a’i chyfarwyddo gan Rufus Norris (Small Island), bydd y ffantasia Gymreig ac epig hon yn cael ei darlledu’n fyw o’r National Theatre.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event