Mae enillydd Gwobr Olivier, Jack Lowden (Slow Horses, Dunkirk), yn ymuno ag enillydd Emmy a BAFTA, Martin Freeman (The Hobbit, The Responder), yn y ddrama newydd glodwiw, hynod ddoniol gan David Ireland.
Ar ôl blynyddoedd yn rhaglen 12 cam Alcoholics Anonymous, mae James yn dod yn noddwr i’r newydd-ddyfodiad, Luka. Mae'r ddau yn dod yn ffrindiau dros goffi du, gan rannu straeon am eu profiadau cyffredin. Ond wrth i Luka ddod at gam pump – yr amser i gyffesu – mae gwirioneddau peryglus yn dod i’r amlwg, gan fygwth yr ymddiriedaeth y mae adferiad y ddau yn dibynnu arni.
Finn den Hertog sy'n cyfarwyddo'r cynhyrchiad pryfoclyd a difyr a ffilmiwyd yn fyw o @sohoplace yn y West End, Llundain.