Ydych chi erioed wedi gofyn i chi'ch hun beth sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni pan fydd y perfformiad drosodd? Ymunwch â ni am daith unigryw y tu ôl i’r llenni yn Venue Cymru a darganfyddwch y cyfrinachau sy’n troi theatr yn lle o ryfeddod. Cewch gyfarfod â rhai o’r tîm talentog sy’n gweithio y tu ôl i’r llenni i ddod â phob perfformiad yn fyw. Crwydrwch drwy’r ystafelloedd gwisgo a safwch yn y goleuadau ar ein llwyfan. Ar hyd y ffordd, mwynhewch flas o’n darpariaeth arlwyo ar y safle a chlywch am ein cynlluniau adnewyddu cyffrous.
Bydd pob taith yn para tua 45 munud, gyda hyd at 16 o bobl ym mhob taith. Ffoniwch 01492 872000 i archebu. Mae’r digwyddiad yn gwbl hygyrch, ond rydym yn annog pobl i ffonio os oes ganddynt unrhyw gwestiynau neu ymholiadau am ein safle.