Prosiect Dyfodol Venue Cymru - Cwestiynau Cyffredin

Edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin i ddysgu mwy am y prosiect.

 

O ble ddaw’r cyllid? 

Yng Nghyllideb y Gwanwyn 2024, cadarnhaodd Llywodraeth EF y byddai £100 miliwn o gyllid yn cael ei ddyfarnu ar gyfer prosiectau diwylliant, gan gydnabod y rôl bwysig sydd gan ddiwylliant a balchder mewn lle i’w chwarae mewn ffyniant bro. Ar ôl Etholiad 2024, gohiriwyd y cyllid tra roedd y weinyddiaeth newydd yn ymgartrefu.  

Yn dilyn adolygiad ac ymgynghoriad, penderfynodd y Llywodraeth gyfredol gefnogi cyfuniad o fuddsoddiadau diwylliannol o bwys cenedlaethol o bob cwr o’r DU. Dyfarnwyd £10 miliwn i Venue Cymru.  

 

Faint fydd y prosiect yn ei gostio?  

Mae’r cyfraniadau mwyaf tuag at y prosiect hwn yn dod gan Lywodraeth y DU (£10 miliwn), Bargen Dwf y DU (£5 miliwn), Cyngor Celfyddydau Cymru (£2 filiwn), a Thrawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru (£2 filiwn). Rydym wedi bod yn ffodus o gael cefnogaeth ystod eang o gyllidwyr, ac rydym yn ddiolchgar iawn am yr holl gefnogaeth rydym wedi’i dderbyn.  

Mae rhestr o’r ffrydiau cyllido wedi’i hamlinellu isod.  

Dim ond cyllid grant mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ei ddefnyddio ar gyfer y prosiect hwn. 

  • Llywodraeth y DU:  £10,000,000 
  • Bargen Dwf (yn destun Achos Busnes Llawn a Chynllunio):  £5,000,000 
  • Cyngor Celfyddydau Cymru:  £1,000,000 
  • Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru:  £2,000,000
  • Ceisiadau am gyllid sy’n mynd rhagddynt neu i’w cyflwyno:  £1,300,000
  • Ardoll Theatr:  £487,146 
  • Cyfanswm  £19,787,146  

 

Pam ydych chi’n symud y Llyfrgell a’r Gwasanaeth Canolfan Groeso i Venue Cymru? 

Mae’r Cyngor yn wynebu pwysau ariannol sylweddol a rhaid adolygu sut caiff gwasanaethau eu darparu er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn fforddiadwy a chynaliadwy. Mae’r Gwasanaeth Canolfan Groeso yn wasanaeth anstatudol, sy’n golygu nad yw’n ofynnol yn gyfreithiol i’r Cyngor ei ddarparu yn ei ffurf gyfredol. Mae dod a’r Gwasanaeth Canolfan Groeso ynghyd â’r ardal lyfrgell i Venue Cymru yn galluogi i’r ddau wasanaeth barhau gan leihau costau rhedeg a gwneud defnydd gwell o adeilad sy’n eiddo i’r Cyngor. 

Mae Venue Cymru eisoes yn lleoliad hygyrch, a ddefnyddir yn aml gyda chysylltiadau cludiant cyhoeddus da, mynediad heb risiau ac oriau agor hirach. Mae cyd-leoli gwasanaethau yn helpu i leihau dyblygu, rhannu llety a chyfleustodau ac yn galluogi staff i weithio’n agosach at ei gilydd. Mae hyn yn creu cyfleoedd i ddatblygu gweithgareddau, digwyddiadau a chyngor ar y cyd, wrth weithredu o fewn cyllidebau llymach. 

Ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr, mae’r newid hwn yn golygu un mynediad symlach tuag at wasanaethau llyfrgell, gwybodaeth leol, diwylliant, digwyddiadau a chefnogaeth i dwristiaid mewn un lleoliad croesawgar a chyfarwydd. 

Nid oes unrhyw wasanaethau’n cael eu tynnu o ganlyniad i’r newid hwn, ond maent yn cael eu darparu mewn ffordd fwy cost effeithiol er mwyn helpu i’w diogelu ar gyfer y dyfodol. 

Trwy ddod a’r ardal llyfrgell a Gwasanaeth Canolfan Groeso ynghyd yn Venue Cymru bydd yn helpu i wneud y defnydd gorau o adeilad cyhoeddus, sy’n eiddo i’r Cyngor, a fydd yn darparu arbedion ar gostau rhedeg. Mae Venue Cymru eisoes yn lleoliad hygyrch, a ddefnyddir yn aml gyda chysylltiadau cludiant da, mynediad heb risiau ac oriau agor hirach gan wneud y gwasanaethau’n haws i’w cyrraedd i fwy o bobl. Mae cyd-leoli gwasanaethau hefyd yn creu cyfleoedd i staff weithio’n agosach at ei gilydd, rhannu gwybodaeth a datblygu gweithgareddau, digwyddiadau a gwasanaethau cynghori ar y cyd. Ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr, mae hyn yn golygu un mynediad symlach tuag at wasanaethau llyfrgell, gwybodaeth leol, diwylliant, digwyddiadau a chefnogaeth twristiaid mewn un lleoliad croesawgar. 

Nid oes unrhyw wasanaethau’n cael eu tynnu o ganlyniad i’r newidiadau hyn.  

 

Pam ein bod ni’n gwneud hyn rŵan? 

Mae’r cyfle buddsoddi hwn yn galluogi’r Cyngor i sicrhau dyfodol hirdymor y gwasanaethau  diwylliant, llyfrgell ac ymwelwyr craidd ar adeg lle mae nifer o adeiladau cyhoeddus yn wynebu costau cynyddol a lleihad mewn cyllidebau. Mae gweithredu rŵan yn helpu i osgoi costau atgyweirio uwch yn y dyfodol ac yn diogelu gwasanaethau ar gyfer yr hirdymor. 

 

A ellir gwario’r arian ar brosiectau eraill neu ar gostau staffio er enghraifft? 

Na, mae’r arian wedi cael ei ddyfarnu’n benodol ar gyfer y prosiect hwn. Gellir ond ei ddefnyddio i ddatblygu canolfan ddiwylliannol yn Venue Cymru gyda’r nod o ddiogelu’r theatr, llyfrgell a’r Gwasanaeth Canolfan Groeso ar gyfer y dyfodol a chreu gofod diwylliannol, bywiog a rennir ar gyfer ymarferwyr diwylliannol a’r cyhoedd.  Ni ellir ail-gyfeirio’r cyllid at brosiectau eraill y Cyngor, ei ddefnyddio i gefnogi costau staffio cyffredinol nac ei wario ar wasanaethau amherthnasol. Byddai defnyddio’r arian ar gyfer unrhyw ddibenion eraill yn torri telerau’r dyfarniad ac ni chaniateir hyn. 

 

A fydd y prosiect yn effeithio ar gyllidebau neu wasanaethau eraill y Cyngor? 

Darperir y prosiect hwn gan ddefnyddio cyllid grant cyfalaf allanol sydd wedi cael ei sicrhau yn benodol ar gyfer Canolfan Ddiwylliannol Venue Cymru. Nid yw’n gwyro na lleihau cyllid o wasanaethau eraill y Cyngor neu gyllidebau gweithredol. Yn ogystal, trwy ddod a’r gwasanaethau ynghyd mewn un adeilad sy’n eiddo i’r Cyngor, disgwylir i’r prosiect leihau costau rhedeg parhaus trwy rannu llety, cynnal a chadw a chyfleustodau is a defnydd mwy effeithlon o le. 

 

Beth yw elfennau allweddol y prosiect?  

Elfennau allweddol arfaethedig y prosiect hwn yw: 

  • uwchraddio seddi’r awditoriwm, sydd dros 20 oed 
  • amnewid isadeiledd technegol sy’n dyddio, sicrhau cydymffurfiaeth gyda safonau diogelwch cynhyrchu modern, gwella effeithlonrwydd ynni wrth leihau ôl-troed carbon a gwella gallu cynhyrchu er mwyn cadw ein sioeau teithio mawr i ddatblygu canolfan greadigol gan gynnwys gofodau cymunedol.
  • cyd-leoli’r llyfrgell a gwasanaeth y Ganolfan Groeso 
  • uwchraddio awyru yn yr awditoriwm er mwyn gwella cyfforddusrwydd ar gyfer cynulleidfaoedd, perfformwyr a staff. 
  • ymestyn yr adeilad yn Venue Cymru i letya canolfan greadigol, gan ddarparu buddion diwylliannol, economaidd a chymunedol ehangach ar gyfer y rhanbarth 

 

A fydd rhaid i ddefnyddwyr yr adeilad dalu am barcio? 

Mae gan Venue Cymru faes parcio talu ac arddangos ar y safle. Hefyd, mae nifer o ofodau parcio am ddim ar y stryd ar gael o fewn pellter cerdded o’r adeilad. 

Mae’r maes parcio yng nghefn Venue Cymru yn cynnwys nifer o ofodau parcio hygyrch sydd wedi’u lleoli yn uniongyrchol tu allan i’r fynedfa, gan ddarparu mynediad haws i ddeiliaid Bathodynnau Glas. 

Mae gofodau gwefru cerbydau trydan ar gael ar y safle, ac mae nifer fechan o ofodau parcio arhosiad byr am ddim hefyd wedi’u darparu. 

 

Sut fydd hyn yn well ar gyfer defnyddwyr y llyfrgell sydd â phroblemau mynediad? 

Bydd casgliadau’r llyfrgell ar y llawr gwaelod, sy’n golygu na fyddai angen i ddefnyddwyr y llyfrgell ddefnyddio lifft na grisiau. 

Bydd mwy o ofodau parcio hygyrch, yn agos at y drysau mynediad, ar gael i ddefnyddwyr y llyfrgell. 

Mae Venue Cymru eisoes yn cynnig safon uchel o gyfleusterau hygyrch, gan gynnwys nifer o doiledau hygyrch, ardaloedd newid babanod dynodedig a chyfleuster newid i gefnogi defnyddwyr gydag ystod eang o anghenion mynediad. 

Bydd mynediad at gyfleusterau llyfrgell, yn cynnwys y cyfleuster hunanwasanaeth ar gyfer benthyg llyfrau a defnyddio cyfrifiaduron cyhoeddus, ar gael ar gyfer yr holl oriau y mae Venue Cymru ar agor, gan ymestyn yr oriau mynediad at y llyfrgell yn sylweddol.  Bydd oriau staff yn trosglwyddo i amddiffyn cylch gwaith llawn y gwasanaeth llyfrgell.   

Bydd caffi ar yr un safle â’r gwasanaethau hefyd, a mannau gweithio i’w defnyddio am ddim a chyfleusterau cymunedol. 

 

Sut fydd y gwaith adnewyddu yn effeithio ar berfformiadau a digwyddiadau yn Venue Cymru.   

Er y bydd Venue Cymru yn parhau i fod ar agor yn ystod y gwaith, bydd y prif awditoriwm yn cau dros dro yn ystod y rhaglen adnewyddu. Bydd y dyddiadau cau terfynol yn cael eu rhannu’n gyhoeddus unwaith i amserlen y rhaglen gael ei gadarnhau. 

Bydd cau dros dro yn achosi ychydig o amhariad i’r rhaglen.  Fodd bynnag, bydd y gwaith uwchraddio yn sicrhau y gall y theatr barhau i gynnal cynyrchiadau ansawdd uchel am flynyddoedd i ddod, wrth wella’r profiad yn sylweddol i gynulleidfaoedd, perfformwyr a chwmnïau sy’n ymweld. 

Rydym yn archwilio cyfleoedd i gynnal sioeau a gweithgareddau tu allan i’r prif awditoriwm yn ystod y cyfnod cau a byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth ar ôl i ni ystyried hyn ymhellach ac unwaith i’r cynlluniau gael eu datblygu’n llawn. 

 

Beth yw’r Ganolfan Ddiwylliannol? 

Mae’r prosiect yn cynnwys estyniad cymedrol i adeilad Venue Cymru er mwyn darparu gofod dynodedig ar gyfer y Ganolfan Ddiwylliannol, gan gefnogi’r diwydiannau creadigol a defnydd gan y gymuned.  

Bydd y Ganolfan Ddiwylliannol yn ofod croesawgar, a rennir o fewn Venue Cymru, wedi’i ddylunio i ddod a gweithgareddau creadigol, dysgu a chymunedol i un lle. Bydd yn cynnig ardaloedd hyblyg ar gyfer sefydliadau diwylliannol, gweithwyr llawrydd, grwpiau cymunedol a phartneriaid i gwrdd, gweithio, ymarfer, dysgu a chydweithio, ynghyd â mynediad i wasanaethau ymwelwyr a’r llyfrgell. Trwy ddod a gweithgarwch diwylliannol ynghyd o dan un to, bydd y Ganolfan Ddiwylliannol yn helpu i wneud diwylliant yn fwy hygyrch a gweledol, cefnogi diwydiannau creadigol lleol, a chreu cyfleoedd ar gyfer partneriaethau newydd, digwyddiadau a gweithgareddau sy’n elwa preswylwyr ac ymwelwyr. 

 

Sut fydd popeth yn ffitio yn Venue Cymru? 

Mae’r prosiect wedi cael ei ddylunio’n ofalus i wneud y defnydd gorau bosibl o’r gofod ychwanegol ac estyniad cymedrol newydd i adeilad Venue Cymru.  

Bydd hyn yn darparu gofod dynodedig ar gyfer y Ganolfan Ddiwylliannol, a gaiff ei ddefnyddio gan y gymuned a’r diwydiannau creadigol, gan helpu i sicrhau y gall y gwasanaethau theatr, cynadledda, llyfrgell a’r Gwasanaeth Canolfan Groeso barhau i weithredu’n effeithiol heb gystadlu am le.  Bydd y llyfrgell yn cael ei leoli ar draws cyntedd y llawr gwaelod gan gynnwys yr adeilad newydd a’r ardaloedd bar caffi / swyddfa docynnau presennol. Mae’r holl gynlluniau wedi cael eu llywio gan ddylunio a chynllunio gweithredol proffesiynol er mwyn sicrhau y bydd Venue Cymru yn parhau i weithio’n effeithiol fel lleoliad rhanbarthol mawr, wrth letya gweithgarwch diwydiannol a gwasanaethau newydd mewn modd cydlynol, wedi’i reoli’n dda. 

 

Sut fydd hyn yn effeithio ar unrhyw gynadleddau sy’n cael eu cynnal? 

Bydd Venue Cymru yn parhau i fod ar agor yn ystod y rhaglen waith a bydd digwyddiadau cynadledda yn parhau fel y cynlluniwyd.  

Wrth i’r gwaith adnewyddu ddatblygu, bydd rhai mynedfeydd yn cael eu cau neu wyro dros dro, a bydd cleientiaid cynadleddau’n cael eu cyfarwyddo i ddefnyddio llwybrau mynediad amgen o amgylch yr adeilad. Bydd staff Venue Cymru yn gweithio’n agos gyda threfnwyr digwyddiadau a’r contractwyr er mwyn lleihau ymyrraeth a sicrhau bod cynadleddau’n parhau i redeg yn esmwyth yn ystod y gwaith.  Bydd holl waith adeiladu sydd ei angen ar gyfer y prosiect hwn yn digwydd i ffwrdd o’n gofodau cynadledda ac ni ragwelwn y bydd sŵn na llwch yn effeithio ar ein harchebion. 

Ar ôl ei gwblhau, bydd ein cyfleusterau Llyfrgell newydd yn darparu gofod desg tawel, wedi’i gysylltu’n dda yn y cyntedd, i gynrychiolwyr sydd eisiau dal i fyny ar waith tra’n mynychu digwyddiad. 

 

A fydd unrhyw fanteision eraill? 

Bydd. Yn ogystal â gwelliannau ffisegol, mae’r prosiect yn darparu ystod eang o fanteision i breswylwyr, ymwelwyr a chynaliadwyedd gwasanaeth: 

  • Bydd y prosiect yn helpu i ddiogelu gwasanaethau rhag pwysau economaidd parhaus
  • Bydd darparu offer hunanwasanaeth yn caniatáu i ddefnyddwyr y llyfrgell ddefnyddio’r cyfleuster pryd bynnag fydd Venue Cymru ar agor, gan ymestyn amseroedd mynediad yn sylweddol.
  • Bydd cyd-leoli ein gwasanaethau yn ein galluogi i ddarparu ystod gydlynol o weithgareddau ar gyfer cymunedau, er enghraifft, cyfuno Amser Stori, Caffis Lego, a gweithgareddau eraill gan bartneriaid diwylliannol eraill. Bydd y dull cydlynol hefyd yn cryfhau cymhwysedd ar gyfer ffynonellau ariannu yn y dyfodol sy’n gofyn am waith partneriaeth.
  • Bydd arbenigedd staff y Llyfrgell a’r Ganolfan Groeso yn cael ei gadw, gyda buddsoddiad wedi’i dargedu ar gyfer hyfforddiant er mwyn cefnogi gwasanaeth i gwsmeriaid cydlynol, o ansawdd uchel.
  • Mae lleoliad y llyfrgell drws nesaf i’r ganolfan nofio yn ei gwneud yn haws i gyfuno ymweliadau i’r llyfrgell gyda gweithgareddau eraill. Bydd lleoliad newydd y llyfrgell yn agosach ar yr ardaloedd preswyl, gan wella cyfleustod a hygyrchedd ar gyfer cymunedau lleol. 
  • Byddwn yn darparu ardaloedd gweithio ac astudio mynediad agored o fewn y cyntedd, gan gefnogi defnydd hyblyg gan unigolion a dysgwyr.
  • Bydd timau staff ar gael ar gyfer pob ardal arbenigol ond byddwn yn hyfforddi pob aelod o staff rheng flaen i gydweithio i gynyddu mynediad at gefnogaeth a gwybodaeth i bobl sy’n defnyddio’r adeilad.   
  • Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Grŵp Llandrillo Menai i nodi cyfleoedd i gefnogi a chydweithio gyda dysgwyr.
  • Bydd gofod parcio arhosiad byr, am ddim ar gael i ddefnyddwyr yr adeilad. 

 

Llyfrgell Llandudno - pryd fydd yn symud?  

Rydym yn gweithio’n agos gyda’r tîm prosiect i lunio’r cynlluniau ar gyfer symud y llyfrgell a sut fydd y gofod newydd yn edrych. Byddwn yn rhannu unrhyw newyddion gyda chi wrth i bethau ddatblygu.  

 

Beth fydd yn digwydd i hen adeilad y llyfrgell?  

Ar hyn o bryd mae’r llyfrgell ar un llawr o fewn adeilad a rennir gyda thenantiaid eraill.  Bydd ardal y llyfrgell yn dychwelyd i berchennog yr adeilad a fydd yn gyfrifol am benderfynu ar unrhyw ddefnydd o’r gofod yn y dyfodol. 

 

A fydd modd defnyddio cyfrifiaduron y llyfrgell o hyd (ac am ddim)? 

Bydd.  

 

A fydd y llyfrgell ar agor am lai o oriau?  

  • Bydd defnyddwyr y llyfrgell yn gallu cael mynediad at gyfleusterau, gan gynnwys cyfrifiaduron a Wi-Fi am ddim, ar unrhyw adeg y bydd Venue Cymru ar agor gan ymestyn oriau y byddent ar gael.
  • Ni fydd oriau staff y llyfrgell yn newid, gyda hunanwasanaeth casglu a gollwng ar gael drwy’r amser. 

 

Beth fydd yn digwydd i’r uned Gwasanaeth Canolfan Groeso wedi’i leoli yng Nghanolfan Fictoria?  

Roedd y Gwasanaeth Canolfan Groeso mewn gofod manwerthu rhent. Mae’r uned bellach wedi cael ei ddychwelyd i berchennog yr eiddo a fydd yn gyfrifol am benderfynu ar unrhyw ddefnydd o’r gofod yn y dyfodol.   

 

A yw enw’r Ganolfan Groeso wedi newid?  

Cyfeirir at y Ganolfan Groeso fel y Gwasanaeth Canolfan Groeso. Mae hyn yn adlewyrchu ffordd fwy hyblyg o ddarparu cymorth i ymwelwyr. Mae cyd-leoli’r gwasanaeth yn Venue Cymru yn galluogi staff i fod yn fwy symudol a gweledol ar draws y lleoliad, wrth barhau i ddarparu cyngor a gwybodaeth leol. 

 

Ble mae’r Gwasanaeth Canolfan Groeso wedi’i leoli?  

Symudodd y Gwasanaeth Canolfan Groeso i Venue Cymru ar 1 Mai 2026.  Mae’r gwasanaeth bellach wedi’i leoli’n bennaf yn nesg derbynfa cynadleddau, gyda’r staff hefyd yn gweithio o brif gyntedd y theatr pan fo’n briodol.   Mae’r dull hyblyg hwn yn galluogi’r tîm i fod yn fwy gweledol ac ymatebol, yn dibynnu ar y digwyddiadau a gweithgareddau sy’n digwydd o fewn yr adeilad, wrth barhau i ddarparu cyngor lleol a chymorth i ymwelwyr. 

 

A fydd y Gwasanaeth Canolfan Groeso ar agor am lai o oriau?  

Na fydd, bydd y Gwasanaeth Canolfan Groeso ar agor ddydd Llun i ddydd Sadwrn, 9:30am i 5.00pm. Yn ystod misoedd yr haf, byddwn hefyd yn treialu oriau agor estynedig i gyd-fynd â’r sioeau sydd wedi’u trefnu yn Venue Cymru. Caiff yr oriau ychwanegol hyn eu cyhoeddi unwaith cânt eu cadarnhau. 

 

 

 

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event