Yn dilyn dwy daith o’u podlediad Two Pints hynod lwyddiannus lle gwerthwyd pob tocyn, mae Will Mellor a Ralf Little ar y lôn eto gyda’u cellwair chwerthinllyd ar gyfer taith newydd sbon “November Nonsense: Two Pints Podcast Live”.
Wedi’u gweld yn fwyaf diweddar ar sgriniau teledu gyda’i gilydd yn rhannu eu hanturiaethau comedi yn Will and Ralf Should Know Better, mae’r pâr yn parhau i ddiddanu’r genedl yn wythnosol gyda’u hantics a’u ffraethineb heintus yn eu podlediad Two Pints.
A nawr maen nhw'n dod â'r comedi cynhyrfus yna i theatrau am y trydydd tro.