The Railway Children Return (TBC)
-

The Railway Children Return (TBC)

-
Archebwch Nawr

Wedi’i hysbrydoli gan un o’r hoff ffilmiau Prydeinig i deuluoedd dros y canrifoedd, mae THE RAILWAY CHILDREN RETURN yn antur hudolus a thwymgalon ar gyfer cenhedlaeth newydd.

1944 – Wrth i fywyd ym Mhrydain fynd yn fwy peryglus, caiff tri phlentyn ifaciwî – Lily (Beau Gadsdon), Pattie (Eden Hamilton) a Ted (Zac Cudby) Watts – eu hanfon gan eu mam o Salford i bentref Oakworth yn Swydd Efrog. Yno i’w cyfarfod ar blatfform yr orsaf drenau mae Bobbie Waterbury (Jenny Agutter, yn ail-greu ei rôl eiconig yn y ffilm wreiddiol), ei merch, Annie (Sheridan Smith) a’i hŵyr Thomas (Austin Haynes), a chyda’u cymorth nhw, buan iawn mae’r ifaciwîs yn setlo yn eu bywyd newydd yng nghefn gwlad.

Pan ddaw’r plant o hyd i filwr Americanaidd Abe (KJ Aikens) wedi’i anafu yn cuddio yn yr iard drenau yng Ngorsaf Oakworth, maen nhw’n cael eu taflu ar drywydd peryglus i helpu eu ffrind newydd sydd, yn union fel nhw, ymhell oddi cartref.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event