Dick & Angel - Dare to Do It

Dick & Angel - Dare to Do It

Taith ‘So Much More to Say’ 2022

Archebwch nawr

Mae Dick ac Angel Strawbridge, sêr rhaglen boblogaidd Channel 4 ‘Escape to the Chateau’ ar y ffordd unwaith eto ar eu Taith ‘Dare to do it’ gyda llawer mwy i’w ddweud. Yn ystod y noson hynod o ddifyr yma, mae’r ddau’n egluro pwy ydyn nhw, o ble maen nhw’n dod, sut y gwnaethant gyfarfod a pham y gwnaethon nhw ei mentro hi!

Mae miliynau o wylwyr ar draws y byd wedi’u cyfareddu dros y blynyddoedd diwethaf gan eu hanturiaethau, ond mae gan y cyn-Lefftenant Cyrnol, peiriannydd a chogydd, Dick, a’i entrepreneur a dylunydd o wraig, Angel, lawer o straeon ar ôl i’w hadrodd.

Efallai eu bod nhw’n ‘gwpl od’, ond mae gan y pâr carismatig stori gariad i’w rhannu a byddant yn datgelu sut y daethant i fyw mewn castell hardd, gyda theulu arbennig, mewn rhan hyfryd o Ffrainc.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event