Accessibility Statement

Datganiad hygyrchedd i Venue Cymru

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i Venue Cymru.

Mae’r wefan hon yn cael ei chynnal gan Un.titled. Rydym am weld cymaint o bobl â phosibl yn gallu defnyddio’r wefan. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech allu:

  • Newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • chwyddo i mewn hyd at 300% heb i’r testun gael ei golli oddi ar y sgrin
  • llywio mwyafrif o’r wefan gan ddefnyddio’r bysellfwrdd yn unig
  • llywio mwyafrif y wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • Gwrando ar ran fwyaf o’r wefan wrth ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau mwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet  gyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

 

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn hollol hygyrch:

  • nid yw’r rhan fwyaf o ddogfennau PDF hŷn yn hollol hygyrch i feddalwedd rhaglen darllen sgrin.
  • nid oes penawdau yn y ffrydiau fideo byw
  • mae’n anodd gwe-lywio rhai o’n ffurflenni ar-lein yn defnyddio bysellfwrdd yn unig
  • mae cyfyngiad ar faint y gallwch chwyddo’r map ar ein tudalen ‘cysylltwch â ni’

 

Gwybodaeth adborth a chyswllt 

Os oes angen gwybodaeth ar y wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print mawr, hawdd ei ddeall, recordio sain neu braille:

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Os na allwch weld y map ar ein tudalen ‘cysylltwch â ni’, ffoniwch neu anfonwch e-bost atom gan ddefnyddio’r manylion cyswllt uchod i gael cyfarwyddiadau.

 

Adrodd am broblemau hygyrchedd ar y wefan

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych yn canfod unrhyw broblem nad yw wedi’i rhestru ar y dudalen hon neu’n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion o ran hygyrchedd, cysylltwch â ni: Joanne Brett, Tîm Marchnata ar 01492 879771 neu e-bost marketing@venuecymru.co.uk.

 

Gweithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Dyfeisiadau Symudol) (Rhif  2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Felly os nad ydych yn hapus gyda’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Ymgynghori a Chefnogi Cydraddoldeb.

 

Cysylltwch â ni wrth ffonio neu ymweld â ni’n bersonol

Mae ein staff yn hapus i gysylltu â’r gwasanaeth trosglwyddo testun i bobl sydd yn fyddar, â nam ar eu clyw neu gyda nam ar ei lleferydd.

Mae dolenni sain yn ein swyddfa docynnau a’r dderbynfa, neu gallwch ddefnyddio eich system InterpretersLive! sy’n cynnig gwasanaeth dehongli fideo sy’n galluogi cwsmeriaid sydd yn cyfathrebu gan ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) i gysylltu â’n tîm drwy ddehonglydd BSL. I gael mwy o wybodaeth ynghylch sut mae’r system hwn yn gweithio, ewch i wefan CBSC.

Darganfyddwch sut i gysylltu â ni.

 

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan

Mae Venue Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n llawn â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Baich anghymesur

Offer a throsglwyddiadau rhyngweithiol

Mae ein llwybr ffurflenni a thocynnau (venuecymru.ticketsolve.com) wedi’u hadeiladu a’u cynnal drwy feddalwedd trydydd parti ac yn edrych fel ein gwefan.

Rydym wedi asesu’r gost i ddatrys problemau gyda gwe-lywio a chael mynediad at wybodaeth, a gyda’r offer a throsglwyddiadau rhyngweithiol. Rydym yn credu wrth wneud hyn yn awr y byddai’n  faich anghymesur  o fewn ystyr y rheoliadau hygyrchedd. Byddwn yn cynnal asesiad arall pan fydd y contract cyflenwi yn cael ei adnewyddu, bydd hyn yn debygol o ddigwydd yn 2024.

  • Cofrestru rhestr bostio
  • Cynllun seddi ‘Dewis eich Sedd eich Hun’

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

PDF a dogfennau eraill

Mae gan Venue Cymru nifer bychan o ddogfennau PDF a Word ar ein gwefan sydd yn hanfodol ar gyfer darparu ein gwasanaeth. Ni allwn arddangos yr rhain mewn fformat gwahanol ar hyn o bryd.

  • Cynllun Seddi Awditoriwm Theatr Venue Cymru
  • Cynllun Seddi Awditoriwm Theatr Colwyn

Gellir gweld y ddau PDF hyn yn nhudalen cynllun seddi, cysylltwch â’n tîm swyddfa docynnau ar 01492 872000 neu e-bost boxoffice@venuecymru.co.uk a gall aelod o’r tîm eich cynorthwyo.

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn gofyn i ni drwsio dogfennau PDF neu unrhyw ddogfen arall a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. 

Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd y byddwn yn eu cyhoeddi yn cyfarfod safonau hygyrchedd.

Fideo byw

Nid ydym yn bwriadu ychwanegu penawdau i ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi  eithrio rhag bodloni'r rheoliadau hygyrchedd. .

 

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Bydd Venue Cymru yn parhau i edrych ar ffyrdd i wella hygyrchedd ein gwefan. Byddwn yn cynnal archwiliadau safle rheolaidd i sicrhau bod y safle yn parhau i fod yn hygyrch, gan sicrhau bod diweddariadau yn y dyfodol yn gwella hygyrchedd y safleoedd ymhellach. 

 

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 21/09/20. Fe'i hadolygwyd diwethaf ar 22/09/20 .

Cafodd y wefan hon ei phrofi diwethaf ar 21/09/20. Cafodd y prawf ei gynnal gan Un.titled.

Mae’r safle gyfan wedi cael ei phrofi, gan ddefnyddio’r offer archwilio canlynol:

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event