Present Laughter

NT Live

Present Laughter

Wedi’i recordio o flaen cynulleidfa fyw

Archebwch nawr

Gan Noël Coward

Mae Matthew Warchus yn cyfarwyddo Andrew Scott (Sherlock BBC, Fleabag) yng nghomedi profoclyd Noël Coward, Present Laughter.

Wrth iddo baratoi i gychwyn ar ei daith dramor, mae bywyd lliwgar yr actor enwog Garry Essendine mewn perygl o golli rheolaeth. Wedi’i amgylchynu gan argyfwng hunaniaeth cynyddol wrth i’w berthnasau lu gystadlu am ei sylw, mae dyddiau diwethaf Garry gartref yn gorwynt cythryblus o gariad, rhyw, panig a hunanholi.

Wedi’i recordio’n fyw o’r Old Vic yn Llundain, mae Present Laughter yn adlewyrchiad hurt, ond yn syfrdanol o fodern, o enwogrwydd, chwant ac unigrwydd.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event