Gan Noël Coward
Mae Matthew Warchus yn cyfarwyddo Andrew Scott (Sherlock BBC, Fleabag) yng nghomedi profoclyd Noël Coward, Present Laughter.
Wrth iddo baratoi i gychwyn ar ei daith dramor, mae bywyd lliwgar yr actor enwog Garry Essendine mewn perygl o golli rheolaeth. Wedi’i amgylchynu gan argyfwng hunaniaeth cynyddol wrth i’w berthnasau lu gystadlu am ei sylw, mae dyddiau diwethaf Garry gartref yn gorwynt cythryblus o gariad, rhyw, panig a hunanholi.
Wedi’i recordio’n fyw o’r Old Vic yn Llundain, mae Present Laughter yn adlewyrchiad hurt, ond yn syfrdanol o fodern, o enwogrwydd, chwant ac unigrwydd.