Yn y stori hudolus yma am ymdrechion ysbrydol a chost goroesi, mae newydd-ddyfodiad dirgel yn aflonyddu ar gydbwysedd bregus mynachlog anghysbell sy’n cael ei redeg gan leian wrthgiliedig (Cate Blanchett – Tár, Carol).
Mae dyfodiad y bachgen newydd (Aswan Reid) yn ansefydlogi’r fynachlog, ond mae’n bywiogi brwdfrydedd y Chwaer Eileen dros Grist i fod yn arweinydd iddo, ac wrth i’w ysbrydolrwydd brodorol wrthdaro yn erbyn dysgeidiaeth y Chwaer Eileen, mae’n rhaid iddi wneud dewis – cynnal y traddodiad neu groesawu’r hyn sy’n dod nesaf…
Yn cynnwys ychydig o drais, iaith anweddus, delweddau gwaedlyd a gwahaniaethu.