A Minecraft Movie (PG)

A Minecraft Movie (PG)

Dangosiad Cymunedol 50c!

Archebwch Nawr

Croeso i fyd Minecraft, lle mae creadigrwydd yn fwy na chrefftwaith, mae’n hanfodol i aros yn fyw! Mae pedwarawd o rai rhyfedd—Garrett “The Garbage Man” Garrison (Momoa), Henry (Hansen), Natalie (Myers) a Dawn (Brooks)—yn cael eu llethu gan broblemau cyffredin wrth gael eu tynnu’n ddisymwth drwy borth dirgel i’r Overworld: byd ciwbig, llawn rhyfeddodau sy’n ffynnu ar ddychymyg. 

I ddod o hyd i’w ffordd adref, mae’n rhaid iddynt feistroli’r byd rhyfedd hwn (a’i amddiffyn rhag pethau dieflig fel Piglins a Zombies hefyd) wrth fynd ar daith ledrithiol â chydymaith annisgwyl, y crefftwr penigamp, Steve (Black). Gyda’i gilydd, bydd yr antur yn gofyn i’r pump ohonynt fod yn ddewr ac ailgysylltu â’r pethau sy’n gwneud pob un ohonynt yn greadigol ac unigryw… yr union sgiliau sydd eu hangen arnynt i ffynnu’n ôl yn y byd go iawn.

Yn cynnwys golygfeydd ychydig yn dreisgar, golygfeydd brawychus, iaith gref. 

 

** Mae tocynnau ar gyfer y ffilm deuluol hon yn 50c, diolch i Gyngor Tref Bae Colwyn. Bydd te, coffi, popgorn yn £1 hefyd!

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event