Dewch i arbrofi â chreu ffurfiau ffigurol mewn clai gyda Pea Restall RCA. Bydd Pea yn egluro sut i greu ffurfiau clai 3D yn llwyddiannus, a byddwch chi’n gallu eu diwygio a’u haddasu wedyn er mwyn mynegi eich gweledigaeth eich hun o ffurf Duw neu Dduwies.
Mae croeso i bob gallu, dewch â deunydd neu ddyluniadau gyda chi neu ewch amdani i greu ar y diwrnod, a gweld beth fydd yn datblygu o’r clai.
*Peidiwch â gwisgo eich dillad gorau a byddwch yn barod i fynegi eich hun*
- 10am - 1pm
- £10
- Crown Lane, Conwy LL32-8AN