Mae’r frwydr epig yn parhau! Mae Monsterverse sinematig Legendary Pictures yn dilyn gwrthdrawiad penben ffrwydrol Godzilla yn erbyn Kong gydag antur newydd sy’n rhoi Kong a Godzilla yn erbyn bygythiad anferthol heb ei ddarganfod sydd wedi ei guddio o fewn ein byd, gan herio eu bodolaeth - a’n un ni.
Mae Godzilla x Kong: The New Empire yn edrych ar hanes y Cewri hyn a’u gwreiddiau, yn ogystal â dirgelwch Skull Island a thu hwnt, wrth ddadorchuddio’r frwydr chwedlonol a gynorthwyodd i greu’r bodau hynod hyn a’u cysylltu â dynoliaeth am byth.
Yn cynnwys rhywfaint o drais ffantasi, bygythiadau a manylion am anafiadau.