Mae Krypto y Ci Arbennig a Superman yn ffrindiau gorau mynwesol, sy’n rhannu’r un pwerau arbennig ac yn ymladd trosedd ochr yn ochr yn Metropolis. Pan mae Superman a gweddill y Justice League yn cael eu herwgipio, mae’n rhaid i Krypto ddarbwyllo grŵp amrywiol o anifeiliaid - Ace y ci, PB y mochyn tew, Merton y crwban a Chip y wiwer - i feistroli eu pwerau newydd eu hunain a’i helpu i achub yr archarwyr.