YMGYRCH CARU EICH THEATR LEOL

Diolch i gefnogaeth gan y Loteri Genedlaethol mae Venue Cymru yn falch o fod yn rhan o ymgyrch Theatr y DU, Caru eich Theatr Leol.

Mae archebion yn agor am 10am ddydd Mawrth 1 Chwefror.

Yn ystod mis Mawrth, pan fyddwch yn prynu tocyn ar gyfer sioe, byddwch yn cael tocyn arall am ddim gan y Loteri Genedlaethol.

Mae’r Loteri Genedlaethol yn ysgwyddo cost miloedd o docynnau mewn theatrau ar draws y DU fel diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am y £30m maent yn ei godi bob wythnos ar gyfer achosion da – gan gynnwys y celfyddydau a’r theatr o fewn hynny. Mae’r fenter hefyd yn gobeithio annog pobl i gefnogi eu theatrau lleol wrth i leoliadau ar draws y DU geisio adfer o effaith Covid-19.

Mae’r ymgyrch ar gael i unrhyw un sy’n chwaraewr y Loteri Genedlaethol ac yn eiddo â chynnyrch y Loteri Genedlaethol. Mae’r ymgyrch hwn yn cael ei redeg gan Theatr y DU. Mae’r arian ar gyfer yr ymgyrch hwn yn dod o gronfa hyrwyddo’r Loteri Genedlaethol. Nid yw’n cael ei ariannu gan arian a ddyrannir ar gyfer Achosion Da’r Loteri Genedlaethol neu gan Camelot.

  • Use the Promo Code LYLT to access the offer when booking.

  • Mae tocynnau yn amodol ar argaeledd a bydd y cynnig yn dod i ben unwaith i ddyraniad cyllido gael ei gyrraedd.
  • Mae’r cynnig hwn yn berthnasol i docynnau safonol / pris llawn yn unig ac ni ellir ei ddefnyddio’n ôl-weithredol ar docynnau sydd eisoes wedi cael eu prynu.
  • Nid yw’r cynnig Caru eich Theatr Leol yn cynnwys perfformiadau ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn.
  • Telerau ac Amodau

Y Sioeau

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event