Gweinyddwr Llawrydd – Cymerwch Ran Ionawr 2027

Gweinyddwr Llawrydd – Cymerwch Ran Ionawr 2027 yn Venue Cymru 

Un adeilad. Dau ddiwrnod. 10,000 o bobl. Llawer o hwyl. 
Ac mae angen rhywun hynod o drefnus arnom i helpu i drefnu popeth. 

Lleoliad: Venue Cymru, Llandudno (ystyrir gweithio hybrid)  
Contract: Llawrydd / contract tymor byr 
Ffi:  £1,000 am 20 hanner diwrnod, Ebrill 2026 i Ionawr 2027 

Beth yw Cymerwch Ran? 

Digwyddiad creadigol poblogaidd Venue Cymru yw Cymerwch Ran – deuddydd prysur yn llawn gweithgareddau ymarferol, artistiaid, sefydliadau a miloedd o bobl ifanc ac oedolion yn cymryd rhan. Mae’n fywiog, prysur a hynod o foddhaus. 

Y rôl 

Rydym yn chwilio am Weinyddwr Llawrydd hyderus, cyfeillgar a hynod o drefnus i helpu i ddod â’r rhaglen at ei gilydd y tu ôl i’r llenni. Chi fydd yn cadw popeth (a phawb) yn symud – o sgyrsiau cychwynnol gydag artistiaid, hyd at sicrhau bod popeth sydd ei angen arnynt ganddynt yn y cyfnod sy’n arwain at y penwythnos. 

Os ydych chi’n hoffi cydlynu manylion, siarad â phobl a gweld digwyddiad creadigol mawr yn dod at ei gilydd, dyma’r cyfle i chi. 

Beth fyddwch chi’n ei wneud 

  • Sgwrsio gydag artistiaid a sefydliadau dros y ffôn, e-bost a Teams
  • Cysylltu â darparwyr gweithgareddau newydd a dechrau sgyrsiau yn hyderus
  • Rheoli pob archeb am weithgaredd o’r dechrau i’r diwedd 
  • Cyswllt cyntaf
  • Cadarnhau manylion
  • Cyhoeddi contractau
  • Rhannu gwybodaeth am yr hyn i’w ddisgwyl ar y diwrnod
  • Sicrhau bod yr holl wybodaeth ymarferol ar gael ar gyfer darparu’r digwyddiad
  • Creu amserlenni clir fel bod pawb yn gwybod beth sy’n digwydd, lle a phryd
  • Gweithio’n agos gyda thîm Marchnata Venue Cymru i sicrhau bod gweithgareddau wedi’u rhestru’n briodol ar wefan Cymerwch Ran
  • Rhannu gwybodaeth gyda thîm Cymerwch Ran am gynnydd y rhaglen
  • Cysylltu a gweithio gyda’r tîm i gael syniadau, cyngor a gwiriadau fel bo’r angen. 

Byddwch chi’n wych ar gyfer y rôl hon os yw’r canlynol yn wir: 

  • Rydych chi’n naturiol drefnus ac wrth eich bodd gyda rhestr wirio dda
  • Rydych chi’n hyderus wrth godi’r ffôn a siarad gyda phobl newydd
  • Rydych chi’n gallu cadw golwg ar sawl tasg ar yr un pryd heb golli gafael arnynt
  • Rydych chi’n gallu cyfathrebu’n glir a phroffesiynol 
  • Rydych chi’n hapus yn gweithio’n annibynnol wrth ddal i fod yn rhan o dîm 

Mae profiad o’r celfyddydau, digwyddiadau neu brosiectau diwylliannol, a phrofiad o ddigwyddiad Cymerwch Ran yn fonws – ond nid yw’n hanfodol, os oes gennych chi’r sgiliau a’r agwedd gywir. 

Pam ymuno â Cymerwch Ran? 

Oherwydd mae’n llawen a chreadigol ac mae’n gwneud gwahaniaeth go iawn. Byddwch chi’n helpu i ddarparu digwyddiad sy’n agor drysau, tanio chwilfrydedd a chroesawu miloedd o bobl i Venue Cymru i roi cynnig ar rywbeth newydd. 

Mae’r rôl wedi’i hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Ymddiriedolaeth Celfyddydau Conwy, ac maen nhw’n ein helpu i gynnig creadigrwydd, cyfle a hwyl i filoedd o gyfranogwyr. 

Sut i wneud cais 

Anfonwch eich CV gyda llythyr eglurhaol at cymerwchran@venuecymru.co.uk erbyn 27/04/26 

Os mai nid llythyr eglurhaol traddodiadol yw’r ffordd orau i chi roi gwybod i ni am eich profiad, mae croeso i chi gyflwyno’r wybodaeth mewn fformat gwahanol (er enghraifft, pwyntiau bwled, ffeil sain fer neu fideo byr).

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event