Gwefru Cerbydau Trydan
Gwefru Cerbydau Trydan yn Venue Cymru
Mae’r pwyntiau gwefru yn fath 22Kw AC. Pennir pŵer y gwefru gan y gwefrwr sydd yn eich cerbyd. Bydd arnoch angen eich cebl gwefru eich hun â chysylltwr ‘Math 2’.
Dangosir y prisiau gwefru yn yr Ap.
Pan fyddwch wedi gwefru eich cerbyd, symudwch y cerbyd i’r mannau parcio safonol a Thalu ac Arddangos.
Mae cerbydau trydan sy’n cael eu parcio yn y mannau parcio hyn ond heb fod yn gwefru yn destun cyfyngiadau parcio fel sy’n cael eu harddangos ar yr arwyddion ger y peiriannau Talu ac Arddangos.
Ystyriwch ddefnyddwyr cerbydau trydan eraill.
Defnyddio’r Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan
- Sganiwch y cod QR neu lawrlwytho/agor yr Ap “Tap Electric” ar eich dyfais clyfar.
- Dewch o hyd i’r gwefrydd cywir ar yr ap (Chwith neu Dde)
- Pygiwch eich cerbyd i’r gwefrydd â chysylltwr “Math 2”.
- Pwyswch “Start Charging” ar yr ap.
- Pwyswch “Stop Charging” ar yr ap pan fyddwch wedi gorffen.
- Datglowch eich cerbyd a datgysylltu’r cebl o’ch cerbyd i ddechrau ac yna’r gwefrydd.
User assistance
If your cable is stuck in the charger, first stop charging, lock and unlock your car and then remove the charger cable from the car. Next, push the charging cable plug upwards firmly into the charger and press and hold the small raised dot on the front of the charger (above the light strip) for 2 seconds. You should then be able to remove the charging cable.