Gwneud Pyped Marionèt gan Olivia Racionzer yn Fyw ar Zoom
Gweithdy byw dros Zoom - Dydd Sadwrn 10 Ebrill, 11am & Dydd Sul 11 Ebrill | 2pmAM DDIM
Addas i : Blant dros 6 oed gyda goruchwyliaeth a chymorth oedolyn!
Mae Olivia Racionzer yn Ddylunydd a Gwneuthurwr Pypedau, ac yn Bypedwraig ym maes Theatr a Ffilm. Mae hi wedi gweithio ar 2 Dymor o His Dark Materials yn yr Adran Effeithiau Creaduriaid ac mae wedi mynychu’r Curious School of Puppetry yn Llundain er mwyn datblygu ei sgiliau fel Pypedwraig.
Mae’n gobeithio ysbrydoli pobl i weld yr hud mewn Pypedau a chredu ynddyn nhw.
BYDD ARNOCH CHI ANGEN
- 2 x tiwb papur toiled
- 1 ochr o focs grawnfwyd
- 2 x ffon loli iâ
- 1 pêl o linyn
- 2 x glanhawyr pibelli
- Tâp masgio
- Glud pritt stick
- Pensil
- 1 taflen o bapur neu bapur newydd
- 4 x gleiniau (oddeutu 10mm mewn diamedr)
YN YCHWANEGOL (ond ddim yn hanfodol)
- Llygaid gwgli
- Argraffydd (ar gyfer all-brint templed)
- Pinnau ffelt neu baent i addurno
I gofrestru ar gyfer y cyfarfod Zoom e-bostiwch: youngcreatives@venuecymru.co.uk